Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).
Mae adran 25 o’r Mesur yn darparu bod rhaid i berson gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir, a thra bodlonir, chwe amod. Amod 1 yw bod y person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau. Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i’r person. Nid yw’r amodau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 33 o’r Mesur yn darparu bod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw’r person (a) yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8. Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw’r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5. Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw’r person (a) yn cael ei bennu yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno. Nid yw Atodlenni 7 ac 8 yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 36 yn darparu bod safon yn gymwysadwy i berson os yw’r safon yn perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y person yn y tabl yn Atodlen 6. Mae pob un o’r canlynol yn ddosbarth o safonau—
(i) safonau cyflenwi gwasanaethau;
(ii) safonau llunio polisi;
(iii) safonau gweithredu;
(iv) safonau hybu;
(v) safonau cadw cofnodion.
Mae adran 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5, neu gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5.
Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol—
(i) safonau cyflenwi gwasanaethau;
(ii) safonau llunio polisi;
(iii) safonau gweithredu;
(iv) safonau cadw cofnodion.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur drwy—
(a) mewnosod personau newydd yn Atodlen 6 a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob person;
(b) hepgor personau o Atodlen 6 pan fo’n briodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016
Gwnaed ***
Yn dod i rym 21 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35, 38 a 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 150(2)(f) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Diwygio Atodlen 6
2. Mae Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen.
Enw
Prif Weinidog Cymru
Dyddiad
YR ATODLEN Erthygl 2
DIWYGIADAU I ATODLEN 6
1. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig (“Merthyr Tydfil College Limited”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant (“The governing body of Saint David’s Catholic College”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Tribiwnlys Prisio Cymru (“Valuation Tribunal for Wales”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“WJEC CBAC Cyfyngedig (“WJEC CBAC Limited”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (“Trustees of the National Heritage Memorial Fund”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
2. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 (public bodies etc: standards) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“The governing body of Saint David’s Catholic College (“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Merthyr Tydfil College Limited (“Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Trustees of the National Heritage Memorial Fund (“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Valuation Tribunal for Wales (“Tribiwnlys Prisio Cymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“WJEC CBAC Limited (“WJEC CBAC Cyfyngedig”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
3. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“National Heritage Memorial Fund”)”;
(b) “Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru (“The Valuation Tribunal Service for Wales”)”.
4. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “National Heritage Memorial Fund (“Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol”)”;
(b) “The Valuation Tribunal Service for Wales (“Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru”)”.